Public Notices
An application has been made by:
HYSBYSIAD STATUDOL
LD3 8
- Council: Llwodraeth Cymru
- Category: gwahardd cerbydau, beicwyr a cherddwyr dros dro
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40 (GER PONTSENNI, POWYS) (GWAHARDD CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DROS DRO) 202-
Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, ger Pontsenni yn Sir Powys.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, beiciwr a cherddwr rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A40 sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r lôn ddienw sy’n arwain at Grai i gyfeiriad y dwyrain hyd at ei chyffordd â’r ffordd fynediad sy’n arwain at Fferm Ynys-yr-Wyddfa.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin o ben dwyreiniol y darn o’r ffordd sydd ar gau fydd mynd ar yr A40 tua’r dwyrain i Aberhonddu, ar yr A470 tua’r gogledd i Lanfair-ym-Muallt ac yna’r A483 tua’r gorllewin i ailymuno â’r A40 yn Llanymddyfri. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain o ben gorllewinol y darn o’r ffordd sydd ar gau.
Bydd y gwaharddiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym ar 11 Gorffennaf 2022 ac yn weithredol dros nos (20:00 o’r gloch tan 07:00 o’r gloch) tan fore 13 Gorffennaf 2022 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen
llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir cael copi print bras o’r Hysbysiad hwn oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Llwodraeth Cymru direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 24 June 2022
- Expires: 08 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.