Public Notices
An application has been made by:
GWAHARDDIAD TRAFNIDIAETH TRWODD DROS DRO
LL48 6PF
- Council: Cyngor Gwynedd
- Category: gwaharddiad trafnidiaeth trwodd
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD 1984
ADRAN 14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN
DDEDDF TRAFNIDIAETH
FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO) 1991
GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD
(CAU’R FFORDD DDI-DDOSBARTH A
ADWAENIR FEL PENSARN A RHAN O’R
A4085, PENRHYNDEUDRAETH)
(GWAHARDDIAD TRAFNIDIAETH TRWODD
DROS DRO) 2022
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor
Gwynedd yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl
dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn fydd yn
gwahardd unrhyw berson rhag peri i unrhyw gerbyd
fynd mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd y darnau hynny
o’r ffyrdd a adwaenir fel y Ffordd Ddi-Ddosbarth a
adwaenir fel Pensarn a rhan o Ffordd yr A4085,
Penrhyndeudraeth.
Y Ffordd Ddi-Ddosbarth a adwaenir fel Pensarn,
Penrhyndeudraeth – o bwynt ger rhif 1, Blaen Ddôl,
Pensarn, gan deithio mewn cyfeiriad gogledd
ddwyreiniol hyd at ei gyffordd gyda Ffordd yr A4085.
Ffordd yr A4085, Penrhyndeudraeth – o bwynt ger
Capel Bethel, Pensarn, Penrhyndeudraeth gan
deithio mewn cyfeiriad deheuol hyd at bwynt ger 2
Rhes Pensarn, Pensarn, Penrhyndeudraeth.
Mae angen y Gorchymyn ar sail iechyd a diogelwch
i’r cyhoedd yn ystod gwaith cloddio i atgyweirio
nam sy'n effeithio ar y goleuadau stryd.
Y ffordd arall yw dilyn Ffordd yr A4085 mewn
cyfeiriad de ddwyreiniol, ar hyd y Stryd Fawr, hyd at
ei gyffordd gyda Ffordd yr A487 ac yna troi i’r dde.
Dilyn y ffordd ymlaen mewn cyfeiriad gorllewinol hyd
at ei gyffordd gyda’r Ffordd Dosbarth III gyferbyn â
Tristan, troi i’r dde, ac yna ymlaen hyd at ei gyffordd
ger Bryniau Hendre ac yna troi i’r dde. Dilyn y ffordd
ymlaen mewn cyfeiriad gogledd ddwyreiniol tuag at
ei gyffordd gyda’r Ffordd Ddi-Ddosbarth a adwaenir
fel Bryn Saethon, troi i’r dde, ac yna ymlaen hyd at
ei gyffordd gyda Ffordd yr A4085 ac i’r gwrthwyneb i
drafnidiaeth sydd yn teithio o’r cyfeiriad arall.
Daw’r Gorchymyn i rym ar y 27ain o Fehefin, 2022 a
bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd hwy
nag un mis neu hyd nes y cwblheir y gwaith y
bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo
gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir y gellir cwblhau’r
gwaith o fewn tua 5 diwrnod.
DYDDIEDIG: 15fed o Fehefin, 2022
………………………………
Iwan G. D. Evans LLB(Anrh) PGCert Dip.L.G.
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Swyddfa’r Cyngor,
Stryd y Jêl,
CAERNARFON,
Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cau ffoniwch yr
Ymgeisydd - James Williams (O’Connor Utilities)
ar 07917068349.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r Gorchymyn
ffoniwch y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad
ar (01286) 679437. (CAT-3954 KFD)
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Cyngor Gwynedd direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 17 June 2022
- Expires: 08 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.