Public Notices
An application has been made by:
HYSBYSIAD STATUDOL
LD2 3BG
- Council: Llwodraeth Cymru
- Category: gwahardd cerbydau dros dro
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A483 (Y STRAND, LLANFAIR-YMMUALLT, POWYS) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 2022
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A483, neu gerllaw iddi, ar Y Strand yn Llanfair-ym-Muallt yn Sir Powys.
Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A483 o’r enw Y Strand sy’n ymestyn o bwynt 5 metr i’r dwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Heol y Gogledd hyd at bwynt 5 metr i’r gorllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Strand Street yn Llanfair-ym-Muallt, Powys.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain y bydd cau’r ffordd yn effeithio arno yw mynd
ar yr A483 tua’r gorllewin i Beulah, ar y B4358 tua’r gogledd-ddwyrain i’r Bontnewydd-ar-Wy, ac yna ar yr A470 tua’r de i Lanfair-ym-Muallt. Nid effeithir ar draffig sy’n teithio tua’r gorllewin.
Bydd y gwaharddiad dros dro, y codir arwyddion priodol yn ei gylch, yn weithredol rhwng 19:00 o’r gloch ar 24 Mehefin 2022 a 18:00 o’r gloch ar 26 Mehefin 2022 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol.
Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
Gellir cael copi print bras o’r Hysbysiad hwn oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Llwodraeth Cymru direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 17 June 2022
- Expires: 08 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.