Public Notices
An application has been made by:
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
NP16 6RE
- Council: Cyngor Sir Fynwy
- Category: hysbysiad rheoleiddio traffig dros dro
CYNGOR SIR FYNWY
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
ADRAN 14 - DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984
CYNGOR SIR FYNWY
(R121 A HEOL-Y-CAPEL, COED-YR-IARLL, SIR FYNWY)
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2022
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY Neuadd y Sir, y
Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA ("y Cyngor") yn unol â'r pwerau a roddwyd
gan Adran 14(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 DRWY HYN
YN GORCHYMYN A CHYFARWYDDO y dylid cadw at ddibenion y
rheoliadau fel a ganlyn:
1. Daw’r Gorchymyn i rym ar yr 16eg Mehefin 2022 a bydd yn parhau i
fod mewn grym am gyfnod nad yw'n hwy na 18 mis neu hyd nes bydd
y gwaith y cynigir ei wneud wedi'i gwblhau, pa un bynnag yw'r cynharaf.
Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar yr 16eg Mehefin 2022.
2. Mae angen y gorchymyn er mwyn i waith cynnal a chadw coed
ddigwydd mewn modd diogel yn y lleoliad. Bydd mynediad rhesymol
yn cael ei gynnal ar gyfer eiddo sydd ar hyd y ffyrdd a effeithir arnynt yn
ystod cyfnod y caead.
3. Effaith y Gorchymyn fydd cau dros dro rhan o’r R121 a Heol y Capel,
Coed-yr-iarll, Sir Fynwy.
4. Bydd y llwybr dargyfeirio fel a ganlyn:
Llwybr dargyfeirio ar gyfer cau’r R121: Heol Coed-yr-iarll, C67-1
(Heol Drenewydd Gelli-farch-Wentwood Mill), Comin Coed-yr-iarll
ac i'r gwrthwyneb.
Llwybr dargyfeirio ar gyfer cau Heol y Capel: Heol y Capel, Argoed
Road, C67-1 (Heol Drenewydd Gelli-farch-Wentwood Mill) ac i'r
gwrthwyneb.
5. Gellir enwi'r Gorchymyn hwn fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros
Dro Heol y Capel, Coed-yr-iarll, Sir Fynwy 2022.
6. Yn sgil Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person
sy'n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn
euog o drosedd.
Dyddiad: 8fed Mehefin 2022
Mark Hand
Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd, Llifogydd a Chynllunio
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Post 106
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 9AN
ATODLEN
R121, Coed-yr-iarll, Sir Fynwy
Ar gau i'r gorllewin o'r gyffordd â'r B4235 am ei chyfanrwydd.
Heol y Capel, Coed-yr-iarll, Sir Fynwy
Ar gau 0.55 cilomedr o'r gyffordd â Heol Drenewydd Gelli-farch-Wentwood
Mill am ~220m.
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Cyngor Sir Fynwy direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 10 June 2022
- Expires: 01 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.