Public Notices
An application has been made by:
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
NP25 3SN
- Council: Cyngor Sir Fynwy
- Category: hysbysiad rheoleiddio traffig dros dro
CYNGOR SIR FYNWY
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
ADRAN 14 - DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984
CYNGOR SIR FYNWY
(LEASBROOK LANE, TREFYNWY, SIR FYNWY)
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2022
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY Neuadd y Sir, y
Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA ("y Cyngor") yn unol â'r pwerau a roddwyd
gan Adran 14(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 DRWY HYN
YN GORCHYMYN A CHYFARWYDDO y dylid cadw at ddibenion y
rheoliadau fel a ganlyn:
1. Daw’r Gorchymyn i rym ar yr 20fed Mehefin 2022 a bydd yn parhau i
fod mewn grym am gyfnod nad yw'n hwy na 18 mis neu hyd nes bydd
y gwaith y cynigir ei wneud wedi'i gwblhau, pa un bynnag yw'r cynharaf.
Rhagwelwyd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau rhwng yr 20fed
Mehefin a’r 8fed Gorffennaf 2022, ac yn gweithredu rhwng 9:00am
a 5:00pm.
2. Mae angen y gorchymyn er mwyn i waith polion ddigwydd mewn modd
diogel yn y lleoliad. Bydd mynediad rhesymol yn cael ei gynnal ar gyfer
eiddo sydd ar hyd y ffyrdd a effeithir arnynt yn ystod cyfnod y caead.
3. Effaith y Gorchymyn fydd cau dros dro rhan o Leasbrook Lane,
Trefynwy, Sir Fynwy.
4. Bydd y llwybr dargyfeirio fel a ganlyn: A466 Ffordd Henffordd, Ffordd
Dixton, yr A40 ac i'r gwrthwyneb.
5. Gellir enwi'r Gorchymyn hwn fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros
Dro Leasbrook Lane, Trefynwy, Sir Fynwy, 2022.
6. Yn sgil Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person
sy'n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn
euog o drosedd.
Dyddiad: 8fed Mehefin 2022
Mark Hand
Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd, Llifogydd a Chynllunio
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Post 106
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 9AN
ATODLEN
Leasbrook Lane, Trefynwy, Sir Fynwy
Ar gau ~220m o'i chyffordd â'r A40 am ~0.55m i gyfeiriad y gogleddddwyrain.
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Cyngor Sir Fynwy direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 10 June 2022
- Expires: 01 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.