Public Notices
An application has been made by:
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
NP16 6
- Council: Cyngor Sir Fynwy
- Category: hysbysiad rheoleiddio traffig dros dro
CYNGOR SIR FYNWY
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO
ADRAN 14 - DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984
CYNGOR SIR FYNWY
(B4235, MYNYDD-BACH, SIR FYNWY)
HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2022
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY Neuadd y Sir, y
Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA ("y Cyngor") yn unol â'r pwerau a roddwyd
gan Adran 14(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 DRWY HYN
YN GORCHYMYN A CHYFARWYDDO y dylid cadw at ddibenion y
rheoliadau fel a ganlyn:
1. Daw’r Gorchymyn i rym ar yr 17eg Mehefin 2022 a bydd yn parhau i
fod mewn grym am gyfnod nad yw'n hwy na 18 mis neu hyd nes bydd
y gwaith y cynigir ei wneud wedi'i gwblhau, pa un bynnag yw'r cynharaf.
Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar yr 17eg Mehefin 2022
rhwng 9:00am a 5:00pm.
2. Mae angen y gorchymyn oherwydd y bydd y briffordd yn cael ei
lleihau i un lôn, a reolir gan signalau traffig dros dro i ganiatáu i
waith polion ddigwydd yn y lleoliad.
3. Effaith y gorchymyn fydd gostwng y terfyn cyflymder dros dro ar ran o'r
B4235, Mynydd-bach, Sir Fynwy.
4. Gellir enwi'r gorchymyn hwn fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros
Dro Gostwng Terfyn Cyflymder y B4235, Mynydd-bach, Sir Fynwy
2022.
5. Yn sgil Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person
sy'n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn
euog o drosedd.
Dyddiad: 8fed Mehefin 2022
Mark Hand
Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd, Llifogydd a Chynllunio
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Post 106
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 9AN
ATODLEN - GOSTWNG TERFYN CYFLYMDER
B4235, Mynydd-bach, Sir Fynwy
Gostyngiad o'r terfyn cyflymder o 60mya i 40mya.
Gostyngiad yn y terfyn cyflymder sy'n dechrau ~350m i'r dwyrain o'r
gyffordd ag Itton Court Road am ~450m.
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Cyngor Sir Fynwy direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 10 June 2022
- Expires: 01 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.