Public Notices
An application has been made by:
Gwahardd Traffig Trwodd
SY23 2
- Council: Cyngor Sir Ceredigion
- Category: gwahardd traffig
Cyngor Sir Ceredigion
Mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud Gorchymyn Sir Ceredigion (Stryd y
Brenin, Aberystwyth) (Cyfyngiadau Traffig Dros Dro: Gwahardd Traffig
Drwodd a Llif y Traffig) 2022, heb fod yn llai na saith niwrnod o
08/06/2022, ar hyd y rhannau hynny o’r briffordd a nodir yn Atodlen 1,
2a a 2b yr Hysbysiad hwn. Cedwir mynediad i gerddwyr. Atodlen 1.
Gwahardd Traffig Drwodd Dros Dro: Stryd y Brenin o’i chyffordd â Stryd
y Castell, tua’r dwyrain yn gyffredinol am gyfanswm o oddeutu 40 llath
hyd at fynedfa breifat. Y trywydd amgen ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r
dwyrain o Stryd y Castell yw teithio i’r gorllewin ar hyd Stryd y Brenin
i’w chyffordd â Rhodfa Newydd. Trowch i’r dde i Rodfa Newydd a
theithio i’r dwyrain i’r gyffordd â Heol y Wig a Glan-y-Môr. Cyfanswm
pellter o tua 500 llath. Atodlen 2a. Newidiadau Dros Dro i Lif y Traffig:
Stryd y Brenin: Llif traffig unffordd yn teithio i’r gorllewin o Stryd y
Castell i Rodfa Newydd. Atodlen 2b. Stryd y Brenin: Llif traffig dwyffordd
o’r pwynt i’r dwyrain o’r ffordd sydd ar gau i’r gyffordd â Heol y Wig (i
gynnal mynediad i gwrt blaen preifat). Bwriedir i’r Gorchymyn ddod i
rym ar 20/06/2022 a bydd yn parhau mewn grym hyd nes y bydd y
gwaith dymchwel ac adeiladu ar gyfer Prifysgol Aberystwyth wedi’i
gwblhau. Bydd hyn yn cymryd tua 8 mis. Gall y Gorchymyn barhau
mewn grym am 18 mis.
HYSBYSIR drwy hyn fod y Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir
Ceredigion (B4342A Pont Rhiwafallen, Talsarn) (Gwahardd Traffig
Drwodd Dros Dro) 2022 gan wahardd pob cerbyd rhag mynd ar hyd y
briffordd honno. Cedwir mynediad i gerddwyr. Y trywydd newydd ar gyfer
traffig sy’n teithio i gyfeiriad y dwyrain o bwynt i’r gorllewin i’r darn
ffordd a gaewyd yw teithio i’r gorllewin ar hyd y B4342 hyd at y gyffordd
â’r B4337 yn Nhalsarn. Trowch i’r dde i’r B4337 a theithiwch i’r gogledd
hyd at y gyffordd â’r B4577 yn Cross Inn. Trowch i’r dde i’r B4577, lle
ceir arwydd Tregaron a theithio tua’r dwyrain i’r gyffordd â’r B4578 yn
Nhyncelyn. Trowch i’r chwith i’r B4578 ac yn syth i’r dde i’r A485 lle ceir
arwydd Tregaron. Yn Nhregaron trowch i’r dde a pharhewch ar hyd yr
A485, Heol Llanbedr Pont Steffan, i’r gyffordd â’r B4342. Trowch i’r dde
i’r B4342, lle ceir arwydd Llangeitho a theithio tua’r gorllewin i Stag’s
Head. Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd a pharhau ar hyd y
B4342 hyd at y gylchfan yn Llangeitho. Cymerwch y trydydd troad oddi
ar y gylchfan lle ceir arwydd Talsarn a pharhewch i’r gorllewin ar hyd y
B4342 at y gyffordd â’r B4576 ac i’r pwynt i’r dwyrain o’r darn ffordd a
gaewyd; ac i’r gwrthwyneb. Cyfanswm pellter o oddeutu 25 milltir.
Daeth y Gorchymyn i rym ar 06/06/2022 a bydd yn parhau mewn grym
hyd nes y bydd y gwaith atgyweirio ar y bont wedi’i gwblhau ymhen tua
6 wythnos. Gall y Gorchymyn barhau mewn grym am 18 mis.
Share on: Facebook | Twitter | LinkedIn | Google+
Have Your Say
You can post a comment onto this website below or contact Cyngor Sir Ceredigion direct.
Post A Comment
Details
- Submitted: 10 June 2022
- Expires: 01 July 2022
- View published version
No comments have been posted yet.